Mae’r Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe yn gymuned amrywiol a rhyngddisgyblaethol o ysgolheigion ar y gorffennol. Mae ein harbenigedd yn amrywio ar draws meysydd hanes, treftadaeth, diwylliant materol, archeoleg, ieithoedd hynafol a llenyddiaeth glasurol, ac mae’n rhychwantu Ewrop, y Dwyrain Canol, Gogledd America ac Asia.
Er bod gan ein gwaith ymchwil gyrhaeddiad byd-eang, mae ein hamgylchedd ymchwil yn cael ei lywio gan anghenion y gymuned rydym yn byw ynddi. Mewn rhanbarth yr effeithiwyd arno’n ddifrifol gan ddiwydiannu a dad-ddiwydiannu, drwy ddatganoli gwleidyddol a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol i feithrin lles, cynwysoldeb a chyfle i bawb. Mae ymgysylltu ac effaith wrth wraidd ein holl weithgareddau ymchwil.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan: https://www.abertawe.ac.uk/hanes/